Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
10 Gorffennaf 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5673
------
Gofynnwyd cwestiynau 1-5, 8 a 9. Tynnwyd cwestiynau 6 a 7 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 2 a 9 gan y Dirprwy Weinidog. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Brexit ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.05
I’w cael gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit.
Alun Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr adolygiad o ddatganoli a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Brif Weinidog y DU?
Dechreuodd yr eitem am 15.21
Gwnaeth Leanne Wood ddatganiad am - Glyn Houston, actor o'r Rhondda.
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Parc Aberdâr yn dathlu 150 mlynedd.
Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad am - Tecwyn Roberts o Landdaniel, Ynys Môn – a fu’n aelod blaengar o dîm NASA pan laniodd Apollo 11 ar y lleuad ar 20 Gorffennaf 1969.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7106 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno y dylid dirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mehefin 2019.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
19 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.53.
NDM7116 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar yr Ymchwiliad i Gynyrchiadau Ffilm a Theledu Mawr yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mai 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7115 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Gosodwyd y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 12 Chwefror 2019.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
9 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7118 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw am gynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad.
2. Yn galw am weithredu ar unwaith er mwyn cynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad erbyn dechrau’r Chweched Cynulliad.
3. Yn galw am ddiwygio system etholiadol y Cynulliad a chyflwyno system pleidlais sengl drosglwyddadwy o ethol Aelodau erbyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
40 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le;
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad.
2. Yn credu nad oes awydd ymysg y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng Nghymru ar hyn o bryd, ac y dylai ymdrechion ganolbwyntio yn hytrach ar:
a) deddfu cynigion adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin;
b) cyflymu'r broses o ddiwygio etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
47 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion.
2. Yn cytuno bod angen cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad.
3. Yn galw am ragor o waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7118 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion.
2. Yn cytuno bod angen cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad.
3. Yn galw am ragor o waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
15 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.56
Dechreuodd yr eitem am 19.00
NDM7117 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Gofalu am ein gofalwyr: Sicrhau'r gydnabyddiaeth, y seibiant a'r cymorth y mae ein gofalwyr yn eu haeddu.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.24
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf 2019